Adolygiad gan Arbenigwr
Mark Grant
Yng Nghymru, mae gweithgynhyrchwyr diodydd yn hynod ffodus o gael lefelau uchel o law a mynediad at ddŵr sy’n hardd a dilychwin. Os ydych chi eisiau diod o’r ansawdd gorau, dylech wneud yn siŵr ei fod yn cael ei wneud gyda’r dŵr sy’n blasu orau, sef dŵr Cymru.
Mae amrywiaeth anhygoel o ddiodydd di-alcohol ar gael yng Nghymru, o’r dŵr mwyaf clir a phur, i ddŵr â blas arno, diodydd meddal, cymysgwyr, diodydd ffrwythau, cordialau, diodydd llaeth a sudd naturiol.
Mae Cymru hefyd yn darparu ar gyfer yr adegau pan fyddwch yn dymuno eistedd yn ôl ac ymlacio gyda diod gynnes braf, drwy gynhyrchu dewis gwych o de a choffi sydd wedi’u cyfuno a’u rhostio’n benodol i gyd-fynd â’n dŵr gwych yma yng Nghymru.
Yn ogystal â meddu ar dreftadaeth gyfoethog o gynhyrchu diodydd, mae Cymru hefyd ar flaen y gad o ran arloesi. Mae myrdd o gynnyrch newydd yn dod i mewn i’r farchnad fel kefirs dŵr, kombuchas a chwrw a jin di-alcohol.
Mae’r ffordd mae defnyddwyr yn prynu eu diodydd yn newid hefyd. Mae defnyddwyr yng Nghymru yn griw craff ac nid yn unig maen nhw’n dymuno cael eu hoff ddiodydd o’r archfarchnad, maen nhw hefyd am ymgysylltu a phrynu'n uniongyrchol gan eu gwneuthurwyr lleol, er mwyn dysgu mwy am eu treftadaeth a tharddiad y diodydd maen nhw’n eu hyfed.
Rydym wedi dod yn bell yn barod ac rydym yn edrych ymlaen at ddyfodol y sector diodydd di-alcohol yn niwydiant diodydd Cymru.
Bwyd a Diod Cymru Clwstwr Diodydd
