Skip to content
Yfwch ddiodydd o Gymru

Read in

  • English
  •  
  • Cyflwyniad
  • Cwrw a Seidr
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
    • Adolygiadau a Gwobrau
  • Gwin
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
    • Adolygiadau a Gwobrau
  • Gwirodydd
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
    • Ryseitiau Coctel
    • Adolygiadau a Gwobrau
  • Di-alcohol
    • Adolygiad gan Arbenigwr
    • Ble mae prynu
  • Newyddion, Cynigion, Digwyddiadau a Chystadlaethau
  • Oriel
  • Menu

Adolygiad gan Arbenigwr

Linda Johnson-Bell

Lynda Johnson-Bell

Oes arnoch chi awydd blasu gwin allan yn yr awyr iach neu fynd am dro hamddenol drwy'r gwinllannoedd? Gan mai thema flynyddol Croeso Cymru 2021 yw “Blwyddyn yr Awyr Agored”, pa ffordd well o fwynhau’r cyfoeth o winoedd o Gymru nag ymweld â’u gwinllannoedd? O Ynys Môn i arfordir garw Sir Benfro, yma ym mhridd y tirweddau arbennig hyn mae’r hud yn digwydd.

Mynd i lygad y ffynnon yw’r ffordd orau o ddod i wybod am daith y botel o’r winllan i’r bwrdd. Mae’n hawdd colli’r cysylltiad rhwng y planhigyn a’r botel wrth yfed gwin yn ddifeddwl ar achlysuron cymdeithasol. Rydyn ni’n anghofio bod gwin yn cael ei wneud o rawnwin a’i fod yn gnwd. Ond mae’r gwinllanwyr gorau yn falch o’u galw eu hunain yn ffermwyr, ac maent wedi eu gwreiddio yn y tir yn yr un modd. Mae gwinllannoedd Cymru yn gyrchfan berffaith ar gyfer gwyliau, naill ai am ddiwrnod i’r brenin yn yr awyr iach neu am gyfnod hirach. Ond mae yna lawer mwy. Dyma lle mae’r clymau rhwng Dyn a Natur yn troi’n rhywbeth y gellir ei flasu: y pridd, yr haul, y glaw a’r gwynt, yn ogystal â’r holl blanhigion ac anifeiliaid sy’n rhannu’r un cynefin.

“Dyma lle mae’r clymau rhwng Dyn a Natur yn troi’n rhywbeth y gellir ei flasu: y pridd, yr haul, y glaw a’r gwynt, yn ogystal â’r holl blanhigion ac anifeiliaid sy’n rhannu’r un cynefin. ”

Wrth fyw dan amodau COVID-19, mae mynd am wyliau yma yng Nghymru yn boblogaidd tu hwnt. Gyda chaffis, siopau, ysgolion coginio, cyfleusterau priodas, ffermydd, digwyddiadau ac atyniadau, mae’r gwinllannoedd yng Nghymru wedi addasu’n gyflym i’r sefyllfa ar hyn o bryd. Maent wedi mynd ymhellach na’r gofynion o ran darparu gwell protocolau diogelwch i amddiffyn gwesteion a staff. Mae llawer eisoes yn cynnig sesiynau blasu gwin rhithwir ar-lein ac yn helaethu eu dewisiadau eistedd dan do, ac mae llawer wedi cynyddu eu cyfleusterau awyr agored er mwyn cynnig ymweliad cyfforddus drwy gydol y flwyddyn. Mae’n siŵr y gwelwch fwy o lefydd blasu gwin awyr agored wedi’u hadeiladu’n bwrpasol, “ystafelloedd” yn yr awyr agored, cysgod rhag y gwynt, parasolau rhag y glaw a’r haul, podiau preifat gyda gwres a goleuadau, a phatios cysgodol. Maen nhw wedi bod yn brysur!  A chofiwch, wrth flasu gwin y tu allan, mae gwres ac oerfel yn gallu effeithio ar flas ac ansawdd y gwin.

Sut fath o brofiad gewch chi mewn gwinllan dan amgylchiadau COVID? Yn sicr, galwch heibio ac archebwch sesiwn flasu neu daith o amgylch y winllan, gan mai grwpiau bach fydd y drefn. Gall aml i winllan gynnig teithiau preifat premiwm, felly cofiwch ofyn. Glynir at drefn gaeth wrth flasu’r gwin. Ac os ydych chi’n teithio am sawl diwrnod, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael bwyta a chysgu gyda nhw cyn mentro ar eich antur nesaf.

Ydych chi eisiau’r profiad gorau o winllan awyr agored? Gofynnwch a oes angen help arnyn nhw yn ystod tymor y cynhaeaf. Rhwng tua chanol mis Medi a chanol mis Hydref, mae’r gwinwydd yn fwrlwm o weithgarwch. Mae llawer o winllannoedd teuluol yn awyddus i gael ychydig o help ychwanegol. Ar ôl diwrnod bywiog yn casglu grawnwin, mae pawb yn cael ei wobrwyo gyda phryd da a rhywfaint o “ffrwyth eu llafur”. A oes antur arbennig, iachach, ddiogelach, neu fwy unigryw i’w chael yn yr awyr agored?

Welwn ni chi’n fuan. Wrth i chi grwydro o winllan i winllan, peidiwch ag anghofio bod danteithion o’r radd flaenaf ym mhob cwr a chornel... Mae hanes gwin Cymru yn berthnasol i feirniaid bwyd, pobl sy’n caru byd natur a bywyd gwyllt, anturiaethwyr, haneswyr a phobl cefn gwlad.  Gwnewch hon yn “flwyddyn yr awyr agored” i chi hefyd.

Bywgraffiad: Mae Johnson-Bell yn awdur gwin rhyngwladol, ac yn awdur, yn siaradwr, ac yn ymgynghorydd gwytnwch gwinwyddaeth sydd wedi’i lleoli yn Rhydychen a Sir Benfro. Hi ydi Sylfaenydd/Prif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Gwin a Newid yn yr Hinsawdd (The Wine and Climate Change Institute).
Ewch i: www.thewinelady.com i gael rhagor o wybodaeth am Winoedd Cymru.

© Yfwch ddiodydd o Gymru 2022      Polisi Preifatrwydd      Polisi Cwcis.