Polisi Preifatrwydd
Mae Levercliff Associates Ltd wedi datblygu'r polisi hwn i arddangos ein hymrwymiad i gyfuno gwasanaethau o’r ansawdd gorau gyda'r lefel uchaf o integriti wrth ddelio â’n cleientiaid. Mae'r polisi’n egluro sut byddwn yn casglu, yn storio ac yn defnyddio gwybodaeth am unigolion. Bydd yn cael ei asesu’n barhaus yn erbyn technolegau newydd, arferion busnes ac anghenion sy'n newid y bobl rydyn ni’n delio â nhw.
Gofynnwn i chi ddarllen y polisi hwn yn ofalus am ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig ynglŷn â beth i’w ddisgwyl pan fyddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch chi a sut y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth honno.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i wybodaeth yr ydym yn ei chasglu ynghylch y canlynol:
- Pobl sy'n cofrestru ar gyfer ein Cylchlythyr Diodydd Cymru.
- Pobl sy’n holi am aelodau ein Clwstwr Diodydd yng Nghymru;
- Ymwelwyr â gwefan Diodydd Cymru.
1. Pwy sy’n casglu eich data?
Cesglir y data gan Levercliff Associates Limited (Rhif Cwmni [04599692]) o 1 The Sawmill, Canolfan Fusnes Brynkinalt, Y Waun, Wrecsam, Cymru, LL14 5NS.
2. Yr wybodaeth a gasglwn amdanoch chi
2.1 Cyffredinol
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ein gwasanaethau, efallai y byddwn yn casglu’r wybodaeth bersonol ganlynol gennych chi, pan fydd yr wybodaeth yn berthnasol i’r mater rydyn ni’n delio ag ef:
Enw;
Cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn; Dyddiad geni
2.2 Ar ein gwefan
Os byddwch chi’n mynd i wefan Diodydd Cymru, efallai y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol: gwybodaeth dechnegol, gan gynnwys y cyfeiriad protocol y Rhyngrwyd a ddefnyddiwyd i gysylltu eich cyfrifiadur â’r rhyngrwyd, y math o borwr a’i fersiwn, cylchfa amser, mathau o ategion y porwr a’u fersiynau, y llwyfan a’r system weithredu, gwybodaeth am eich ymweliad, gan gynnwys y Lleolydd Adnoddau Unffurf llawn, ffrydiau clicio i, drwy ac o’n gwefan (gan gynnwys dyddiad ac amser), eitemau rydych chi wedi’u gweld neu wedi chwilio amdanynt, amseroedd ymateb tudalennau, gwallau wrth lwytho i lawr, hyd ymweliadau â thudalennau penodol, gwybodaeth rhyngweithiad â thudalennau (fel sgrolio, clicio, a mannau dal y llygoden), dulliau a ddefnyddiwyd i bori o’r dudalen, y rhwydweithiau cymdeithasol a ddefnyddiwyd i bori i’n tudalennau ac unrhyw rif ffôn a ddefnyddiwyd i’n ffonio.
2.3 Categorïau arbennig o ddata
Rydyn ni’n cydnabod bod angen diogelu'r data rydyn ni'n ei gasglu yn ddigonol:
Mae Gwybodaeth Adnabod yr Unigolyn yn cynnwys, er enghraifft, cyfeiriadau e-bost, a data ‘click stream’ sy'n dilyn gweithgarwch ymwelwyr ar Wefan neu wasanaeth ar-lein.
Rydym yn casglu Gwybodaeth Adnabod yr Unigolyn a Data Sensitif dim ond pan fydd angen busnes cyfiawn i wneud hynny.
3. Pam rydym ni’n casglu eich data?
Rydym yn dibynnu’n bennaf ar dair sylfaen unigol i brosesu eich gwybodaeth yn gyfreithlon. Yn gyntaf, efallai y bydd angen i ni brosesu eich gwybodaeth mewn ffyrdd penodol er mwyn darparu gwasanaethau i chi. Mae'r prosesu hwn yn angenrheidiol i gyflawni’r contract rhyngom. Yn ail, pan fyddwch wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich gwybodaeth mewn ffyrdd penodol, byddwn yn dibynnu ar eich caniatâd. Yn drydydd, mewn achosion penodol efallai y byddwn yn prosesu eich gwybodaeth lle bo angen i hybu ein buddiannau cyfreithlon, lle nad ydy eich hawliau neu fuddiannau chi yn uwch na’r buddiannau cyfreithlon hynny.
O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn dibynnu ar seiliau cyfreithiol eraill i brosesu eich gwybodaeth megis i ddiogelu buddiannau hanfodol defnyddiwr (megis pan fydd perygl o niwed uniongyrchol) neu i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol. Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn nodi eich dewisiadau ynghylch amlder, cynnwys a/neu fformat gohebiaeth. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
4. Am ba hyd mae eich gwybodaeth yn cael ei chadw?
Byddwn yn cadw eich data cyhyd â bod ei angen i gyflawni ein contract gyda chi. Wedi hynny, caiff ei gadw am gyfnod o chwe blynedd. Os ydych chi’n rhoi cydsyniad datganedig i ni gadw eich data, byddwn yn ei gadw cyhyd ag y byddwn yn credu y bydd gennych chi ddiddordeb yn ein gwasanaethau, neu tan y byddwch chi’n tynnu caniatâd yn ôl. Ni wnawn ni byth werthu data personol, gan gynnwys rhestrau postio, i drydydd parti.
5. Sut byddwn yn diogelu eich gwybodaeth?
Rydyn ni’n sefydlu gweithdrefnau diogelwch a mesurau technegol a threfniadol priodol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Gallai hyn gynnwys, mewn rhai achosion, amgryptio data a defnyddio cyfrineiriau. Byddwn yn gwneud pob ymdrech rhesymol i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol nad yw defnyddio’r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel ac felly ni allwn sicrhau diogelwch nac integriti unrhyw wybodaeth bersonol sy'n cael ei hanfon gennych neu atoch dros y rhyngrwyd.
6. Mynediad at eich gwybodaeth a diweddaru a chywiro eich gwybodaeth
6.1 Mae gennych hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Os hoffech chi gael copi o’ch holl wybodaeth bersonol neu rywfaint ohono, anfonwch e-bost at hello@levercliff.co.uk neu anfonwch lythyr at Fintan O’Leary o Levercliff Associates, 1 The Sawmill, Canolfan Fusnes Brynkinalt, Y Waun, Wrecsam, Cymru, LL14 5NS.
6.2 Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod eich gwybodaeth bersonol yn gywir ac yn gyfoes. Os ydy’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni yn newid, er enghraifft os ydych chi’n newid eich cyfeiriad e-bost, enw neu fanylion talu, rhowch wybod y manylion cywir i ni drwy anfon e-bost at hello@levercliff.co.uk neu drwy anfon llythyr at Fintan O’Leary o Levercliff Associates, 1 The Sawmill, Canolfan Fusnes Brynkinalt, Y Waun, Wrecsam, Cymru, LL14 5NS. Efallai y byddwch chi’n gofyn i ni, neu y byddwn ni’n gofyn i chi, gywiro gwybodaeth rydych chi neu ni’n credu sy'n anghywir, ac efallai y byddwch chi hefyd yn gofyn i ni ddileu gwybodaeth sy’n anghywir.
6.3 Fintan O’Leary sy’n goruchwylio cydymffurfiaeth â’r polisi preifatrwydd hwn ac rydyn ni wedi sefydlu gweithdrefnau i wneud yn siŵr y gwneir pob ymdrech i fynd i’r afael â phryderon am eich data. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y polisi hwn neu sut rydyn ni’n delio â’ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â tom.evans@levercliff.co.uk
6.4 Bydd Levercliff Associates yn parhau i oruchwylio gweithrediad y polisi hwn a chydymffurfiad ag ef a bydd yn ei addasu i adlewyrchu newidiadau mewn technoleg a disgwyliadau pawb yr ydyn ni’n delio â hwy.
6.5 Mae gennych chi’r hawl i gwyno unrhyw bryd wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), awdurdod goruchwylio’r DU ar gyfer materion sy’n ymwneud â diogelu data. Mae manylion ar gael yn www.ico.org.uk.
7. Gwerthu busnes
If our business is sold or integrated with another business your details may be disclosed to our advisers and any prospective purchasers and their advisers and will be passed on to the new owners of the business.
8. Dolenni at wefannau eraill
Gall ein gwefan gynnwys dolenni at wefannau eraill. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i'r wefan hon yn unig felly os ydych chi’n mynd drwodd i wefannau eraill dylech chi ddarllen eu polisïau preifatrwydd nhw.
